Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (31) |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Gofynnwyd y 15 cwestiwn.
14.31
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
14.45
3. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty: Cynllun Buddsoddi mewn Seilwaith i Gymru
15.25
4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Llywodraethu Addysg Bellach
15.58
5. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy: Gorchymyn i ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd
16.29
6. Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011
NDM4855 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2011.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
16.32
7. Dadl ar
Fanteision Rhannu Gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bersonol
NDM4856 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod rhannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, gyda chymorth technoleg, yn hanfodol er mwyn cwrdd ag amcanion ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a sicrhau’r newid i’r system sy’n angenrheidiol er mwyn darparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig a chynaliadwy sy’n gwella canlyniadau, yn cefnogi pobl mewn angen ac yn darparu gofal yn agos at y cartref.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham
(Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu y bydd cynigion cyllideb ddrafft cyfredol Llywodraeth Cymru yn methu â rhoi digon o gyllid ar gyfer caffael systemau technoleg i fanteisio’n llawn ar rannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
5 |
38 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham
(Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, er mwyn cynyddu manteision rhannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, y dylai Llywodraeth Cymru hwyluso’r broses o ymgorffori hanes gwasanaeth cyn-filwyr yn eu cofnodion meddygol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
5 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4856 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod bod rhannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, gyda chymorth technoleg, yn hanfodol er mwyn cwrdd ag amcanion ‘Law yn Llaw at Iechyd’ a sicrhau’r newid i’r system sy’n angenrheidiol er mwyn darparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig a chynaliadwy sy’n gwella canlyniadau, yn cefnogi pobl mewn angen ac yn darparu gofal yn agos at y cartref.
Yn credu, er mwyn cynyddu manteision rhannu gwybodaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bersonol, y dylai Llywodraeth Cymru hwyluso’r broses o ymgorffori hanes gwasanaeth cyn-filwyr yn eu cofnodion meddygol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
17.23
8. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol)
NDM4857 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol drwy gontractau cyhoeddus yn y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol) fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 30 Mehefin 2010, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyflwynwyd y
gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Senedd y DU wedi newid enw'r Bil i’r Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Gwerth Cymdeithasol) drwy ei ddiwygio ar 18 Hydref 2011.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4857 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau sy’n ymwneud â lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol drwy gontractau cyhoeddus yn y Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Menter Gymdeithasol a Gwerth Cymdeithasol) fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 30 Mehefin 2010, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn nodi bod Senedd y DU wedi newid enw'r Bil i’r Bil Gwasanaethau Cyhoeddus (Gwerth Cymdeithasol) drwy ei ddiwygio ar 18 Hydref 2011.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
17.23
Cyfnod Pleidleisio
Daeth y cyfarfod i ben am 17.25.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mercher, 23 Tachwedd 2011